• Byncws Butchers Arms
  • Byncws Butchers Arms
  • Byncws Butchers Arms
  • Byncws Butchers Arms

Cyfraddau -

Darganfyddwch y Byncws Butchers Arms

Mae’r Butchers Arms yn dafarn sy’n cael ei rhedeg gan deulu ar ymylon prydferth Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gennym ddewis mawr o fwyd a diod i’w mwynhau mewn amgylchedd cynnes a chyfeillgar. Mae ein byncws wedi ei wasanaethu’n llawn, a gallwn gynnig bync maint oedolyn â dillad gwely glân; does dim angen sachau cysgu, felly gallwch deithio’n ysgafn. Os fyddwch chi allan o gwmpas y lle ar ddwy olwyn mae gennym hefyd ardal stordy diogel ar gyfer beics. Mae gennym ni WiFi am ddim hefyd felly gallwch ddefnyddio eich gliniadur neu ffôn clyfar i anfon y lluniau yna’n ôl at eich ffrindiau a’ch teulu.